chynygiai hwn hyn, a hwnyna hyn a hwnacw hyn ac arall, hyd at ryw Mempricius (enwid y Cymry yn dra gwahanol y pryd hyny i'r hyn wneir yn awr), yr hwn a roes gyngorion rhagorol iddynt, sef gofyn merch y Brenin, wrth ei henw, Ignoge, yn wraig i'r Cadfridog, a digon o aur, arian, yd, a phob peth angenrheidiol arall i ymadael oddiyno am wlad bell (nid oeddynt yn breuddwydio am Patagonia y pryd hyny), oblegid, ebe efe, pe dygwyddai i ni ymrafaelio a'n gilydd, byddai yn berygl i ni fyw yn eu hymyl, ar ol y gweithredoedd gyflawnwyd genym arnynt. Eu plant a phlant eu plant a gofient am danom i ddial arnom!" Galwyd Pandrasus o flaen y Cadfridog, a rhoddwyd ei ddewis iddo, sef cael ei gigeiddio yn echrydus neu roi ei ferch yn wraig i Brutus. Yn ddoeth iawn dewisodd yntau yr olaf. Nid oes son am y pethau hyn a llawer o bethau eraill Sieffry mewn hanes gyffredin. Efe a'u dyfeisiodd a'i ben ei hun!
XVII.
Y mae ymadawiad Ignoge a'i rhieni a gwlad ei genedigaeth, y modd y daliai ei llygaid yn dyn tua'i mamwlad yn diflanu o'r golwg hyd y syrthiai i lewyg, yn deimladwy iawn. Wedi morio am beth amser daeth y fintai (rhelyw y Troiaid) at ynys o'r enw Leogecia, ac ynddi yr