Newydd. Gresyn na fyddai Corineus yn fyw heddyw i ddyfetha cewri y dyddiau presenol, sef clymbleidiau dur, glo, olew, arian, aur, a pheth na.
XIX.
Ganwyd i Brutus a'i wraig Ignoge, dri mab, Llogrin, Albanach a Camber; ac yn ol y Cymry, rhanodd Brydain rhwng y tri, a galwyd y tair rhan yn Lloegr, Alban a Chymru. Nid oedd dim safai yn ffordd Sieffry i wneyd hanes trefnus o'i ystori ramantus. Cofier mai Cymry oedd y Saeson a'r Ysgotiaid (sef yr Albaniaid) y pryd hwnw. Wyr i Brutus oedd Maddan, a wyr iddo yntau oedd Ebraucus, tad yr hwn oedd angenfil o ddyn, yr hwn a ddaeth i ddiwedd gresynus ond haeddianol, sef ei amgylchynu gan fleiddiaid rheibus a'i ysglyfio mewn modd echrydus; er hyny, yr oedd y bleiddiaid yn deilwng o glod. Yr oedd i Ebraucus (Efrog) 20 o feibion a 30 o ferched a rhydd Sieffry eu henwau oll, a gellir eu cael yn ei "Historia Britonum." Gwelir wrth y rhai hyn nad oes eisieu o gwbl i alw pob Cymro yn John, Dafydd, Thomas ac ychydig o enwau eraill, nac ychwaith y merched oll yn Mari, Ann, Shan, Cat a Shoned.
XX.
Disgynydd i Ebraucus (Efrog) oedd y brenin Llyr, yr ysgrifenodd William Shakespeare am