AM DRO I ERSTALWM. dano ef a'i ferched. Yr oedd Llyr yn hoff iawn o weniaith, fel ambell i Gymro, ac un diwrnod daeth i'w ben ofyn i'r merched, fel y gofynir yn aml i blant, pa mor hoff yr oeddynt o'r hen ddyn, eu tad, ac atebodd dwy o honynt, Gonorella a Regan, y carent ef yn fwy na'u hunain, yr hyn a ogleisiai yr hen wr yn ddirfawr. Yna gofynodd i'r ferch ieuengaf, sef Cordelia, ac atebodd hithau y carai hi ef fel y gweddai i blentyn garu ei dad. Digiodd yr hen ddyn wrthi am hyny, ac wedi rhoi ei ddwy ferch wenieithus yn wragedd i ddau dduc enwog, rhanodd ei deyrnas rhyngddynt a phriododd ei ferch ieuengaf, Cordelia, i frenin Ffrainc, ac ni roddodd nac arian na thir gyda hi; ond gan y carai Aganippus hi mor fawr, dywedodd wrth ei thad ei fod yn foddlon ar Cordelia ei hun, gan fod ganddo ddigon o bethau y byd ei hunan. Wedi i'r hen frenin fyned yn hen, fel yr a breninoedd fel pobl dlawd, amddifadwyd ef o'i wlad gan ei ddwy ferch a'u gwyr, a gorfu iddo wedi'r cyfan gymeryd llong a chroesi y mor at ei ferch yn Paris, yr hon a'i croesawodd fel ei blentyn, a chododd hi a'i phriod fyddin fawr o filwyr, a chroesodd efe, hi a hwy y mor i Loegr gan ymlid y meibion-yn-nghyfraith oddiar eu gorseddau. Wedi marwolaeth ei thad a'i gwr, teyrnasodd Cordelia am bum mlynedd yn Mhrydain,
Tudalen:Am Dro i Erstalwm.djvu/50
Prawfddarllenwyd y dudalen hon