Bryd hwn 'roedd Cymru'n llawn o swyn,
O fechgyn glew a merchaid mwyn;
'Roedd cerdd a chan drwy'r wladfa lan
A pher hyfrydwch gwynfyd;
Ond aeth ef mwy dan gyfrin glwy'
A Chymru nid ei gwelodd mwy;
Fe aeth yr oes a'i dawn a'i moes
Yn ddystaw tua'r cynfyd!
Ond yn ei hun mae'r brenin cun
Daw eto eilwaith ato'i hun;
Ac wedi hyn ar hyd y llyn
Y dychwel i'w gynteddoedd;
Daw eto'i rad ar hyd y wlad
A'r hen ddifyrwch a'r mwynhad,
A daw'r hen iaith a'i rhin a'i rhaith
Yn rheol yn ei gwleddoedd.
XXII.
Yn hanes rhamantus y Brenin Arthur ceir dychymyg y meddwl Prydeinig yn cyraedd ei ogoniant, oblegid yn y rhamant hon y cawn y darluniad mwyaf cyflawn o nerth a gwendid y cymeriad Cymreig, sef y meddylnod mwyaf ysblenydd yn diffygio yn anffodus o herwydd diffyg y rhinweddau angenrheidiol i gyraedd y nod. Yn Arthur cawn y dychymyg mwyaf hardd ond yn ei glwyf cawn ei gyfaddefiad o'i fethiant i sylweddoli ei amcanion bendigaid. Yn yr hanes hwn eto cawn y bradwr yn chwareu ei ran, fel ar hyd yr oesau; ond cawn elfen gyfrin