Tudalen:Am Dro i Erstalwm.djvu/55

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ford Gron yn drech na phob chwedl arall. Gallai y Rhufeiniaid a'r Groegiaid olrhain eu hachau ac enwi eu gwroniaid yn ol hyd ddyddiau Caerdroia, ac felly i gydymgystadlu a hwy olrheiniodd y Cymro hanes y Prydeinwyr yn ol i Troia, a lluniodd linach o freninoedd o Brutus i lawr hyd ei amser, ac y mae yr hanes yn llawn dyddordeb; ac mewn oesau pan nad oedd gwybodaeth coelid yr hanes fel peth dilys a diameuol.

XXIV

Ganwyd Arthur mewn ffordd ramantus drwy ymyriad Merlin, yr hwn oedd ddewin penaf yr oes. Yn fuan wedi ei eni, hefyd, trosglwyddwyd y plentyn i ofal a than addysg arwr, oblegid nis gallai ysgol gyffredin barotoi cawr meddyliol ac arwrol o fath Arthur. Rhaid oedd ei anfon i ysgol breifat Merlin. Byrddiai gyda marchog o'r enw Syr Ector. Tuag adeg y Nadolig, sef y dydd y ganwyd Brenin Dynoliaeth, cyngorodd Merlin archesgob Caergaint i alw yr holl deyrnas yn nghyd, fel feallai y dangosai Crist drwy ryw ddamwain pwy ddylai fod yn Frenin Prydain. Cymerodd hyn le yn yr eglwys fwyaf yn Llundain. Wedi dyfod allan o gwrdd y boreu, gwelwyd faen mawr pedwar ysgwar yn y fynwent, rhywbeth yn debyg i eingion gof gyda chleddyf mawr wedi ei roi ynddi, ac arno