yr oedd y geiriau "Pwy bynag a'm tyn i allan o'r gareg a'r eingion hon, efe fydd frenin Prydain." Wedi i bawb fethu tynodd Arthur ef allan, ond ni wyddai neb nac efe ei hun mai mab Uthr Bendragon oedd. Profodd Arthur ei hun yn benaf dyn yn y deyrnas; ond yn fuan gorfu iddo ddangos ei wroldeb a defnyddio ei gleddyf rhyfedd.
XXV.
Ymddengys mai prif ddifyrwch y Cymry (neu y Prydeinwyr) oedd ymladd a'u gilydd a thywallt gwaed; a cheir Arthur gynted ag y gwnaed ef yn frenin yn ymladd yn ddiorphwys. Ond yn nghanol ei ryfeloedd, cawn ef yn cael hamdden i syrthio i gariad a'r ddynes ieuanc harddaf dan haul, a chan na chai ef lonydd gan ei arglwyddi a'i farchogion heb edrych am wraig, gan y byddai hen fab o frenin yn dramgwydd, gofynodd Merlin iddo (er yn gwybod gystal ag yntau), a feddyliai efe fwy o rywun nag eraill, ac atebodd Arthur do; ei fod yn caru Gwenhwyfar uwchlaw pob merch arall, "a hi," ebe efe, "yw y rhian ddewraf a glanaf welais erioed."
Ebe Merlin yn ol:
"Diau ei bod felly, ond pe na baet mor ddwfn yn ei serch ag yr wyt, gallwn i ddyfod o hyd i eneth o bryd ac o ddaioni; ond lle mae calon dyn, yno hefyd y mae yntau."