Tudalen:Am Dro i Erstalwm.djvu/64

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ffarwelia, fyd, 'rwy'n myn'd i'r wlad
Lle mae tawelwch a mwynhad!

Nid car yw'r byd; a chartref chwaith
Ni cha'r un dyn ar hyn o ddaer;
Rhaid myn'd i'w gyrchu'n mhell ar daith,
I'r ynys fwyn, ramantus, glaer!
Ffarwelia, fyd, 'rwy'n myn'd i'r wlad
Lle mae tawelwch a boddhad!

XXXIII.

Gwyddai Giraldus, efe yn Gymro, o ochr ei fam, wendidau y Cymry, sef eu heiddigedd a'u hymrafaelion teuluol. "Pe buasent yn unol, ebe efe, buasent yn anorchfygol; ac uwchlaw pobpeth, pe y buasai iddynt yn lle tri tywysog, un, a hwnw yn un da." Ond fel y mae'n drist cyfaddef, yr oedd ymrafaelio yn eu gwaed, ac ni thyciodd dim ar hyd yr oesau, ddim o'u hanffodion a'u hymrafaelion gwaedlyd aneirif, i'w hargyhoeddi o ddirfawr werth undeb a chydweithrediad. Awdwr "Drych y Prif Oesoedd" a ddywed yn gywrain a chyfrwys mai Arthur ddyfeisiodd y Ford Gron, fel y gallai pawb eistedd blith draphlith yn ddiwahan wrthi heb ddim ymryson am oruchafiaeth; ac un o ofynion goruchel ei arwriaeth oedd "y dylai pob un hyd eithaf ei allu gadw llonyddwch yn y deyrnas, a gyru ymaith y gelynion."