XXXIV.
Y mae un sylw gan Carnhuanawc a awgryma y fath gyflwr o gyffro rhyfelus a gwaedlyd oedd hanes y Cymry ar hyd yr oesau. Pan yn cyfeirio at flynyddau heddychlawn Hywel Dda, yr hyn a briodolir i gadernid y brenin rhyfedd hwnw neu i'w ddoethineb yn rheoli y wlad, "ond braidd," ebe yr hanesydd, "y gallasai unrhyw dywysog Cymroaidd yn yr amseroedd hyny ymgadw yn hollol rhag rhyfel a rhyw blaid neu gilydd, naill y Saeson neu y Llu du; ac, felly, barnaf fod yr absenoldeb yma o grybwylliad am ryfel, yn gyfrifedig i esgeulusdra hanesyddion, yn hytrach nag i dawelwch anghyffroedig am ddeugain mlynedd." Y fath resyni i feddwl i'r Cymry ryfela o'r braidd yn ddidangnefedd o fawr parhad ar hyd yr oesau, a'r fath syndod i'r bobl orfyw y fath hir yrfa o ymrafael a thywallt gwaed! Ai rhyfedd fod y bobl yn dlawd drwy yr oesau, heb fawr olion llwyddiant a diwylliant yn eu plith? Fel y dywed Nicol Macchiavelli yn ei draethawd "Y Tywysog," "Mae y darfodedigaeth yn hawdd i'w atal ond yn anhawdd ei adnabod, yn y cychwyn, ond gyda threigliad amser, daw yn hawdd i'w adnabod ac yn anhawdd ei wella." Felly y bu gyda'r Cymry. Pe gwybuasent mai math of ddarfodedigaeth oedd eu hymrafael gwaedlyd