Tudalen:Am Dro i Erstalwm.djvu/66

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

a'u gilydd, gallasent ei atal yn y cychwyn, a pharhau yn ddigon cryf i atal eu goresgyniad yn nghyd a'u gwlad gan y Saeson a'r Normaniaid. "Calon esgeulus a wna fuchedd annhrefnus."

XXXV.

Un diffyg difrifol ac andwyol ynom ar hyd yr oesau fu ein hamddifadrwydd o broffwydi ac o arweinwyr gwareiddiol a gwleidyddol. Wrth edrych dros hanes y Cymry, ceir na chododd proffwyd neu wladweinydd yn eu plith o ddyddiau Hywel Dda hyd uniad Cymru a Lloegr. "Gwlad beirdd, cantorion a gwrol ryfelwyr" fu ar hyd yr oesau. Nid oedd y "gwrol ryfelwyr" yn wladweinyddion, na'r beirdd yn broffwydi. Dylynai y beirdd eu tywysogion rhyfelgar i'w moli a'u marwnadu. Ni feddyliai y naill am adeiladu, diwygio a diwyllio y wlad, na'r llall am oleuo a hyfforddi. Ni chododd yr un Nathan i feio a cheryddu a chollfarnu. Yr oedd Dafydd ap Gwilym, y dysgleiriaf o'r beirdd mewn rhyw ystyr, yn hollol amddifad o anianawd y proffwyd. Drwy yr oesau tywyll, ni chododd neb fel Hywel Harris. Gwenieithio a thruthio i'r tywysogion rhyfelgar wnai y beirdd. Pe codasai ambell i broffwyd Cymreig grymus, diau y cawsid ambell i dywysog Cymreig dwysfeddwl a gwladgarol, yn ngwir ystyr y gair.