XXXVI
Gwelsom yn hanes Llyr y modd y rhanodd efe ei deyrnas yn dair, ac fel yr achlysurodd hyny lawer o ofid iddo. Ebe efe yn y chwareu gan Shakespeare—
We have this day a constant will to publish
Our daughters' several dowers, that future strife
May be prevented now
ond y gwir yw i'w waith yn cyflawni hyn achosi yr holl drafferth, a bu yr un cynllun yn foddion i beri tywalltiad llynoedd o waed y Cymry. Hefyd, yn ol cronicl Caradog o Lancarfan, Rhodri fawr (ddechreuodd ei deyrnasiad yn 843) a ranodd Gymru yn dair rhan rhwng ei dri mab; a sylwer eto mai amcan Rhodri oedd "sicrhau diogelwch a chadernid Cymru," yn agos yr un rheswm ag a rydd Shakespeare yn ngenau Llyr; ond ebe'r hanesydd, "hi a ddygwyddodd yn llwyr wrthwyneb, canys benben yr aethant o hyny allan, fel prin y gwladychodd un tywysog heb ymgecraeth a llawer o dywallt gwaed. Y ffaith yw i ryw drindodaeth wleidyddol nodweddu y Brutaniaid a'u handwyo. Rhanwyd Prydain ar y cyntaf, yn ol chwedl Sieffry, i Loegr, Cambria ac Alban, rhan i bob un o dri mab; yna gwelwn Gwynedd, Powys a Deheubarth. Rhanwyd y De, hefyd, i Gwent, Morganwg a Dyfed, a'r canolbarth eto i Gered-