hefyd, yn ei chwedlau, ceir y rhesymau mwyaf gwagsaw a phlentynaidd fel achlysuron eu rhyfeloedd. Cymerer y chwedl am ffrae rhwng Nynniaw a Pheibiaw. I bobl ffraellyd y mae esgus yn ddigon o achos. Ebe Sampson, gwas i deulu Capulet, yn "Romeo a Juliet:"
"Mi fwyta i 'mawd yn ngwydd y Montagywiaid, a bydd yn warth iddynt, os y dioddefan' nhw hyny;" a chyn pen mynyd yr oedd yn ffrae waedlyd.
Dywedai Nynniaw mai ei faes ef oedd yr wybren, a Pheibiaw, mai ei dda a'i ddefaid yntau oedd y ser, a'r lleuad yn fugail arnynt. Ebai Nynniaw eto, "Ni chant aros yn fy maes i." "Hwy gant," ebai Peibiaw, a dyna hi yn gynen wyllt a therfysg rhyngddynt, hyd y dyfethwyd gwlad y naill fel y llall yn agos oll yn yr ymladdau. Wedi clywed hyn aeth Rhitta Gawr, brenin Cymru, i ddarostwng y ddau dywysog disynwyr, a'r gosp fu eu difarfu. A phan glywodd y rhai eraill o wyth brenin ar hugain Ynys Prydain am y sarhad hwn ar y ddau frenin anghall, aethant i ddial ar Rhitta, ond Rhitta a'u goresgynodd oll ac a'u difarfodd hwythau oll, &c. Dengys y chwedl fod yr esgus lleiaf yn ddigonol i yru y Cymry benben frigfrig a'u gilydd.