ain, a daethant a dynes hardd o Ellmynes gyda hwy, yr hon a swynodd y brenin hyd at ddrysu ei ddeall. Rhoddodd yntau wlad Caint i'r Sacsoniaid am Rhonwen, heb ofyn o gwbl am gydsyniad perchenog y wlad, sef Gorangan. Daeth y Normaniaid i Forganwg i helpu Iestyn i ymladd a'i gyd-dywysog Rhys ap Tudor. Yr oedd y tywysogion anghyfeillgar hyn mor lluosog yn Nghymru, a'u teyrnasoedd mor agos, fel y gallent ymddyddan a'u gilydd. Mae ffermydd yn y wlad hon yn lletach na theyrnasoedd rhai o dywysogion Cymru gynt.
XL.
Dan Gruffydd ap Llywelyn, brenin Gwynedd drwy hawl, a holl Gymru drwy rym y cledd, codwyd y wlad yn uchel iawn mewn ystyr ryfelus. Yr oedd efe yn rhyfelwr grymus ac yn ddychryn i'r Sacsoniaid; ond yr oedd iddo wraig o'r Philistiaid. Syn i'r fath elyn i'r Saeson briodi Saesnes! Gelwid ef yn darian ac amddiffynwr y Brutaniaid, yr hwn a fu yn anorchfygol, yr hwn a enillodd fuddugoliaethau aneirif ac a lanwodd gymoedd yr Eryri ag ysbail o aur, arian, ceinion a dillad drudfawr. Eto bradychwyd a lladdwyd ef gan ei gydwladwyr. Yn ystod ei deyrnasiad, fel y tywysogion a'i blaenorodd ac a'i dylynodd, ni wnaeth ddim i