Tudalen:Am Dro i Erstalwm.djvu/73

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gwnaeth Gruffydd ap Llywelyn; ond fel hwnw yr oedd ei fuddugoliaethau oll yn filwrol; ni threfnodd ddim ar y deyrnas ac ni adawodd ddim ond annhrefn a diymadferthedd ar ei ol, yn nghyd ag elfenau andwyol. Gadawodd fab o Gymro trwyadl ond anghyfreithlon i ymrafaelio a mab o Saesnes briod am yr orsedd. Bu Dafydd fab Joan farw yn ddiblant, a chodwyd Llywelyn fab Griffith orchrech i'r orsedd, ac ef a fradychwyd ac a laddwyd yn Muallt, ac efe elwir yn "Llywelyn ein Llyw Olaf." Bradychwyd Dafydd ei frawd, hefyd, gan ei gydwladwyr ei hun, sef Einion, ap Ifor a Goronwy ap Dafydd, y rhai a'i dygasant ef yn gaeth at y brenin Iorwerth, o flaen llys yr hwn y dedfrydwyd ef i gael ei ladd i'w dori yn bedwar aelod, i'w hanfon yn anrhegion i bedair dinas, Brystau, Northampton, Caerefrog a Chaerwynt (ac ymrafaeliodd y ddwy olaf am ei ysgwydd dde!) ond gosodwyd ei ben ar dwr Llundain yn ymyl pen ei frawd Llywelyn.

XLII

Felly y dirwynwyd annibyniaeth Cymru i ben. Rhoddodd Iorwerth I. ei fryd ar uno Cymru a Lloegr, drwy y trefniad a elwir yn Gyfraith Rhuddlan, yr hon a arweinir i fewn yn y modd a ganlyn: "Iorwerth, drwy rad Duw,