Tudalen:Am Dro i Erstalwm.djvu/74

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Brenin Lloegr, Arglwydd Iwerddon a Dug Aquitain, at ei holl ffyddloniaid yn ei diriogaeth o Eryri, ac o'i diriogaethau eraill yn Nghymru, y Dwyfol Ragluniaeth, yr hwn sydd anffaeledig yn ei drefniadau," &c. Nis gallwn lai na chydnabod daioni rhagluniaeth yn uno Cymru a Lloegr, oblegid dyna y fendith fwyaf ddaeth ar Gymru a Lloegr erioed. Yr oedd y Cymry er wedi eu gorthrechu mewn rhyfel eto heb eu gorchfygu, ac megys brenin call, defnyddiodd Iorwerth ystryw gelfydd i roi cwlwm deheuig ar yr undeb. Ar ol ymgyngori a'r Cymry amryw droion a'u cael yn benderfynol nad ufuddhaent i'r un brenin heb ei fod yn Gymro, trefnodd i gael Elinor, ei frenines, yr hon oedd ar y pryd yn dysgwyl mab i'r byd, ar frys i Gymru, lle y ganwyd ei mab bychan, Iorwerth yr Ail. Galwodd Iorwerth y Cymry ato a dywedodd eu bod yn fynych wedi ceisio ganddo roi iddynt Dywysog, ac fod ganddo un wedi ei eni yn Nghymru ac heb fedru gair o Saesneg. Boddhaodd hyn hwy yn fawr, ond teimlasant dipyn yn ddiflas pan ddeallasant pwy oedd y Tywysog, ond ni aethant yn ol ar eu gair. Ganwyd y Tywysog ar y 25ain (nid ar y 1taf) o Ebrill, 1284.