cariadus, yr hyn ni fwynhaodd y Cymry, yn dra thebyg, erioed o'r blaen. Dyma fraint y dylai ein pobl ei mawrhau am byth. Braint bwysig arall fu alltudiad y gallu Pabol o Brydain, am yr hyn y buwyd ar hyd yr oesau yn ymdrechu, ond a wnaed yn y diwedd pan y caed y gwaed Cymreig yn Harri VIII. i'w gyflawni. Y gwaed Cymreig fagodd galon i wneyd hyny, ac "Oes y byd i'r gwaed Cymreig Protestanaidd!"
XLVII
Peth arall rhagorol a wnaeth Harri oedd talfyru enwau y Cymry i hyd ymarferol a defnyddiol. Cyn hyny, os y gofynid i ryw Gymro ei enw, byddai yn debyg o ddweyd ei fod yn Ioan ap Ifan ap Gruffydd ap Einion, &c., &c., ond gorfu i bob un ymfoddloni ar ddau neu dri man pellaf, John Ifan, Dafydd Dafys, John Jones, &c. Pan y byddai cynghaws mewn llys rhwng dau Gymro, cymerid y diwrnod cyntaf i wrando enwau yr achwynydd, y cyhuddedig, y tystion, &c. Bellach rhaid fu i'r Cymro roi enwau ei gyndeidiau i fyny, a mabwysiadu enw ei dad neu ei fam. Ymffrostiai y Cymro yn ei linach fel Absalom yn ei wallt!
XLVIII
Yr oedd oes yr hen arwyr Cymreig yn awr