wedi myned heibio, a thywysogion llawn ysbryd yr efengyl i gymeryd eu lle, y rhai a orddysgleiriant enwogrwydd eu blaenafiaid Pabyddol a phaganaidd. John Penri, dyma ben newydd, a chenadwri newydd yn ei enau, a goleu Haul Cyfiawnder yn tywynu ar ei wyneb. Gadawodd ei braidd ar fynydd Epynt yn y De gan fyned o flaen llys Elizabeth i ymbil am oleu i Gymru. Aeth o Gymru i Rydychain yn Babydd, ond yn fuan trodd yn Brotestant; gwelir ei ysbryd yn ymfudo o dywyllwch i oleuni, ac o'i gyflwr o oleuni cenfydd Gymru fel mewn magddu, a chyfyd ei lais i fyny yn hyglyw i gondemnio y bugeiliaid cysglyd a didaro a gauent y goleuni allan o Gymru. Ymffrostiai yr offeiriaid Pabaidd yn eu hallweddau, ond eu defnyddio i gloi Cymru mewn tywyllwch ac anwybodaeth wnaethant ar hyd yr oesau; a phan y gwaeddai Penri am agor ffenestri Cymru i gael yr heulwen efengylaidd i fewn, ymgynddeiriogi yn erwin wnai perchenogion yr allweddau. Curai Penri wrth balas y Frenines, wrth ddor y Parliament, wrth ddrysau yr Eglwys, wrth ffenestri y persondai a'r esgobdai, oblegid yr oedd Penri o ddifrif. Efe oedd gwawrgeiniad y Diwygiad yn Nghymru, a "gem" oedd hefyd, fel Luther. Yr oedd Harri wedi uno Lloegr a Chymru yn gyfreithiol; yn
Tudalen:Am Dro i Erstalwm.djvu/80
Prawfddarllenwyd y dudalen hon