Tudalen:Am Dro i Erstalwm.djvu/88

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

y byd a'r bobl. Mewn gwirionedd, gan Griffith Jones a'i ddylynwyr yr oedd y gwir allweddau, nid gan y Pab a'r offeiriadaeth.

LIII

Yr oedd Hywel Harris a'r rhai ddaeth ar ei ol fel erydr ac ogau yn tori a llyfnu Cymru, ac yn ei gwneyd yn gyfaddas i dderbyn hadau gwareiddiad am y tro cyntaf yn ei hanes. Nid bardd yn ymddifyru a'i delyn oedd y Diwygiwr, eithr proffwyd yn rhwygo calon ei wlad baganaidd ag og effeithiol argyhoeddiad. Y mae hanes gwrthwynebiad yr Eglwyswyr i bregethiad yr efengyl a gwareiddiad y Cymry yn gywilydd oesol iddynt. Amddifadid clerigwyr da a duwiol o'u lleoedd am ufuddhau i'r Hwn a'u galwodd; cloent eu pregethwyr mwyaf hyawdl allan o'r llanau. Pan y deuai Griffith Jones, Llanddowror, o amgylch y llanoedd troai y curadiaid a'r rheithoriaid yr allweddau yn y drysau, a chai bregethu yn mhlith y beddau. Dywed Jones yn ei lyfr yr ymdrechai aml i gurad yn fwy pe y meiddiai.. Yr oedd yr esgobaethau yn nwylaw plant y byd hwn. Gwrthwynebent bob cynllun i oleuo y bobl. Ataliwyd Harris a Williams, Pantycelyn, i gael urddau am y rheswm y pregethent. Pechod Harris oedd pregethu mewn lleoedd anghysegredig a gweddio yn ddifyfyr ac allan o'i fynwes, yn lle