Tudalen:Am Dro i Erstalwm.djvu/89

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

o'r Llyfr Gweddi. Yr oedd y tywyllwch yn gyfryw fel y gellid, fel y dywedai un, ei deimlo, eto diffoddai yr Eglwys bob canwyll fedrai! Am filldiroedd o amgylch yn aml ni phregethid pregeth gan gurad na rheithor, ac mewn llanau eraill clywid pregeth oddiwrth Sais gan ychydig Gymry yn deall dim ond Cymraeg! Drwg Daniel Rowlands yn ngolwg Esgob Ty Ddewi oedd myned o amgylch i bregethu. Gan y daliai Rowlands i bregethu i'r miloedd, penderfynodd yr Esgob ei amddifadu o'i eglwysi. Sais oedd yr Esgob Squire hwn, ac yn anwybodus o iaith y Cymry! Taflwyd Rowlands allan o'r Eglwys am ei fod yn efengylwr. Taflwyd Williams Pantycelyn allan am ei fod yn bregethwr ac yn awyddus i oleuo ei gydwladwyr. Wedi ei ryddhau o gaethiwed yr Eglwys, trodd hwn yn eos y Diwygiad, ac y mae ei emynau wedi bod yn ddiwylliant ac yn iechydwriaeth i filoedd. Saeson a chlerigwyr digenadwri gadwent eu llanau!

LIV.

Er fod corff y genedl wedi ymfoddloni ar ei huniad a'r Saeson, a'r gweddill o'r teulu Prydeinig, ac yn gwerthfawrogi yr undeb grasol a roes ddiwedd ar ymrafaelion oesol y Cymry a'r Saeson ac a'u gilydd, y mae yn aros eto yn ein plith, fel y mae yn drist cyfaddef, relyw an-