ddioed. Yn ei apel at ei gydwladwyr i ddyfod at eu gilydd i gychwyn teyrnas, cawn ef yn cyfaddef eu gwendid drwy yr oesau. "Beth a pha faint bynag fu y gwahaniaeth rhyngom a'n gilydd mewn crefydd, &c., byddwn un mewn gwladaeth. Drwy ymladd a'n gilydd, yn llwyth yn erbyn llwyth, y gorchfygodd y Rhufeiniaid ni, &c." "Byddwn o un meddwl," ebe efe. Yr oedd am gael y Cymry i fod yn genedl "ffurfiol" yn lle yn genedl "ymdoddol." Yn y diwedd penderfynwyd ar ymsefydlu yn Patagonia, gan dybio y tyfasai y Cymry yn genedl mor gref yno fel ag i ddychrynu yr Ysbaenwyr allan o'u hesgidiau. "Nid oes digon o yni yn yr Ysbaenwyr i ddyfod yno i'n poeni," ebe efe, yn gamsyniol. Aeth y Gwladfawyr yn fuan dan eu rheolaeth, fel y gallesid dysgwyl; aethant ar fyr dan reolaeth cenedl waelach na'r Saeson, ac yn feddianol ar grefydd iselwaelach. Felly drwy ddylyn arweinwyr dall aeth y Cymry i ffos wladfaol annymunol; a thebyg mai hono fydd yr ymgais olaf i sefydlu llywodraeth Gymreig ar y ddaear hon. Y mae y belen hon wedi ei meddianu gan Alluoedd cryfion y byd, a'r oes i bwrcasu tyddyn i adeiladu teyrnas annibynol arno wedi dianc heibio. Mae y cyfle wedi myned, a'r cenedloedd cystadleuol wedi cymeryd eu lle. Lle Cymru mwyach (fel Ysgotland a'r Werddon)
Tudalen:Am Dro i Erstalwm.djvu/91
Prawfddarllenwyd y dudalen hon