fydd dan aden Prydain yn bobl bedair-gainc i wareiddio a meddianu (yn nghyd a'u brodyr Americanaidd) y belen ddaearol. Bu Rhagluniaeth yn garedig i ranu clod y Sais rhwng y Cymro, yr Ysgotyn a'r Gwyddel; a diameu genym mai dyn cryf wneir ryw ddydd o waed y pedwar wedi y'u ceir i ymwadu bob un a'i fympwy, a syrthio i fewn a threfn ac arfaeth y Goruchaf. Y Saesneg fydd ymadrodd y bobl unol hyn, am y rheswm mai hi yw yr iaith fwyaf gyfansawdd a chyfaddas a glywodd ac a lefarodd plant Adda erioed, a bydd yn ddigon o iaith i lenwi genau y byd a thrafod ei holl oruchwyliaeth. Ni ddylem wingo yn erbyn trefn Duw.
LVI.
Ond ebe y dyn, "Beth am yr Hen Gymraeg?" Gall pawb a'i carant ei llefaru; a chofier mai pan fydd farw mai bai y Cymry fydd hyny. Sonir llawer gan Gymry "am ladd y Gymraeg," ond os byth y ceir y Gymraeg wedi ei lladd gellir myned ar lw a'i brofi mewn llys mai y Cymry a'i lladdodd hi. Gyhyd ag y rhoddir llety iddi yn ngenau a chalon y Cymro hi a fydd byw; ond yn y man y gwrthodir llety iddi ac y teflir hi allan, marw fydd ei thynged. Ni chedwir hi yn fyw wrth ei chanmol, eithr ei llefaru.