"Ha! fy ngwlad! 'rwy'n hoff o'i henwi,
Ac yn hoff o'i choffa'n fwyn;"
Dyna dd'wedi, wedi'th lenwi
Ar adegau gan ei swyn;
Ond mae caru heb weithredu
(Rhaid yw credu) yn sarhad;
Ti yn caru'r Dywysogaeth,
A dy serch ond gwag warogaeth?
Ac ni fedri iaith dy wlad?
"Ha! fy iaith! iaith fy rhieni!
Hon a'm suai yn fy nghryd!"
Ond yn Seisneg y dadleni
Gain deimladau'th estron fryd;
Nid yw mwy yn eiddo i ti,
Iaith fu'n swyn dy fryd ddinam;
Haner cofio'th wlad a wnei di
Haner bendith mam a gei di
Heb gyfrinach iaith dy fam!
"Ha! fy nghened!! swyn dy yrfa,
O! mor anwyl genyf fi!
Daw dy gofion gynt yn dyrfa"
Mewn estroniaith ddwedi di;
Ond mae'th gefnu ar y famiaith,
Fel i'r genedl yn sarhad;
Os am fod yn Gymro iawnfryd,
Ac yn genedlgarwr llawnfryd,
Rhaid it ddysgu iaith y wlad!
LIX
Pan yn edrych dros hanes Cymru yn yr oesau aeth heibio ac i'r dyfodol, nis gallwn lai na chofio hanes Peredur, yn y Fabinogi, chwedl