Tudalen:Am Dro i Erstalwm.djvu/97

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

LX.

A dyma flodeuyn arwriaeth Cymru yn ymagor gyda'r gair, sef yn y diwygiad rhyfedd sydd mewn ychydig amser wedi gwneyd llawer iawn i agor yr ysbrydol o flaen llygaid y byd gwareiddiedig. O'r diwedd dyma Gymru wedi cael o hyd i'w chenadaeth, yr hon sydd ysbrydol. Mae pyrth Seion fel wedi eu symud i Gymru. O'r blaen ni wyddai ond daearyddwyr am Gymru, ond erbyn heddyw y mae y byd yn troi ei wyneb i gyfeiriad Gwlad y Bryniau o herwydd y goleu nefol a'r gorfoledd ysbrydol yno. Mae Cymru yn mhersonoliaeth Eyan Roberts a'i gymdeithion ieuainc wedi derbyn cenadaeth i ddechreu cyfnod newydd yn y byd. Neges yr arwriaeth ysbrydol hon yw cyhoeddi digonolrwydd Cariad Duw i achub pechadur, ac fod Duw yn ymwneyd a phawb yn bersonol a heb gyfryngau defodol neu seremoniol. Ebargofir pob offeiriadaeth ac eglwysyddiaeth ymhongar. Troir yr offeiriad, y clerigwr a'r pregethwr defodol o'r neilldu fel cyfryngau achub, a dadguddir Ysbryd Duw i'r byd fel unig gyfrwng iechydwriaeth. Dymchwelir pob ymhoniaeth offeiriadol, a chwalir y gyffesgell. Heibio i bob trefn eglwysig a y pechadur i bresenoldeb Duw yn ei Fab, yr Hwn a achub bob un yn bersonol. Cynrychiolwyr a goruchwylwyr yr