Tudalen:Am Dro i Erstalwm.djvu/98

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ysbryd ynt leygwyr-meibion a merched anoffeiriadol ac anmhregethwrol; ac y mae y ffaith i Dduw eu dewis yn brawf o'r nef fod oes yr offeiriadaeth wedi darfod. Gwel yr Arglwydd yn dda gan nad oedd yr offeiriaid a'r pregethwyr ffurfiol yn achub neb, i roi ei Ysbryd i ddynion achub eu gilydd. Wele Peredur wedi troi allan ar lwybr ei arwriaeth!