Tudalen:Anthropos-Gwroniaid y Ffydd.djvu/102

Gwirwyd y dudalen hon

"Teflwch yr ysgerbwd yna yn ol i'r môr, rhag ofn iddo ddyfod ato ei hun, oherwydd os daw yn fyw ni chawn ni un tipyn o'r broc a ddaeth i dir heddyw. Nyni a gawsom lawer yn lled-fyw, ond taflasom hwynt yn eu hol bob un o honynt; ac nid oes neb wedi ei adael i ddweyd chwedlau, am wn i; felly, teflwch chwithau y crwydr-gi yna yn ol i'r môr. Mi wrantaf mai rhyw hen chwiw-leidr ydyw, sydd wedi haeddu ei grogi ganwaith, ond fel y dywed yr hen air—‘Y neb a anwyd i'w foddi, ni chaiff byth mo’i grogi’ -ymaith ag ef. " Ond ni wrandawyd ar gais yr hen greadures galon-galed. Rhoddwyd iddi drochfa dda yn y tonau, a chludwyd y teithiwr anffodus i anedd y ficer, lle y derbyniodd ofal a thynerwch cyfartal i'r eiddo mam. Wedi treulio amryw ddyddiau yno i ymgryfhau, mae yr Hanesydd un bore yn myned i olwg y llanerch lle y digwyddodd y trychineb. Dyma ei eiriau: "Daethym yn union i'r lle, ac O! y fath wahaniaeth a welaf heddyw ar y corff dyfrllyd ehang-faith sydd o'm blaen; ei wyneb mor dawel a'r drych sydd yn y parlwr, yn un llen gyfan fel dôl o wydr gloew, ac ambell fad pysgota yma ac acw, a'u rhwyfau yn pelydru yn yr haul, megis brychau ar ei wyneb."

Yn ystod ei arosiad yn y ficerdy, parhai i fyned allan bob bore i chwilio am olygfeydd newyddion. Ar un o'r cyfryw deithiau y mae yn dyfod o hyd i'r hyn a gyfenwir ganddo yn Fwth y Bardd.

Mae ei ddarlun o'r fan yn nodedig o dlws. Dyma fel y dywed:- Ar fy llaw chwith yr oedd ceunant cul wedi ei amdoi â choed, a ffrwd fechan o ddwfr can loewed a'r grisial yn rhedeg drwy ei ganol, a chareg fechan yma ac acw, gyda cheulan wedi trysori baich o'r man-raian hyfrydaf, lle y gwelid y brithyll yn chwareu uwch wynebdisglaeriol ei balmant amryliw. Wrth ddilyn gyda y