Tudalen:Anthropos-Gwroniaid y Ffydd.djvu/11

Gwirwyd y dudalen hon

Ymguddiodd sant bri wiedig yn ei chreigiau:
Teimlasant bwysau llethol ei chadwynau :
Bu meibion Duw yn ubain yn ei gwigoedd,
A bu eu gwaed yn cochi ei haberoedd ;
Trwy ingoedd tost credinwyr erlidiedig
Y daeth i ni yn frodir wynfydedig.

Ond os ydyw Cymru i barhau yn "frodir wynfydedig" y mae'n rhaid i'w meibion a'u merched gydnabyddu a hanes y gwroniaid fuont yn ymdrechu hyd at waed i bwrcasu ein rhyddid, ac i sicrhau ein cysuron. Rhaid i ni fawrhau eu gwaith, a chadw yr ymddiriedaeth o wirionedd ac egwyddorion ydym wedi eu derbyn oddiwrthynt,—ei derbyn, nid i'w mathru dan ein traed, ond i estyn ei therfynau, ac i'w throsglwyddo yn ddilwgr i'r dyfodol. Ni ddylai anwybodaeth na difaterwch gael taflu eu cysgodion tywyll ar y rhandir gysegredig hon. Yn ngeiriau y bardd yr ydym wedi cyfeirio ato o'r blaen:—

Pa beth i oes fel yma yw MERTHYRON
Yw gwyr a gwragedd, llanciau a gwyryfon,
Mewn daeargelloedd neu danllwythi mawrion,—
A ydynt hwy i ni yn awr yn ddynion,
Ai ymgyfuniad byw o wirioneddau,
O oddefgarwch, ac o bob rhinweddau,
Neu enwau ar oleuni, ar wroniaeth:
Neu ar gymylau llawn o ysbrydoliaeth?
Y ddau,—mae dynion dan yr hanesyddiaeth,
A meibion Duw o dan yr holl arwriaeth!

Ie, dyna sydd yn gwneyd yr hanes yn fyth-ddyddorol, ac yn ysbrydoliaeth newydd i bob oes. Mae "dynion byw o dan yr hanesyddiaeth,'—ac am hyny y mae yr hanes ei hunan yn aros yn iraidd a thirf,— gwirionedd, egwyddorion, ysbryd ffydd wedi ymgnawdoli, ydyw hanfod yr hanes ei hun. Ac os ydyw Cymru yn "frodir wynfydedig" mewn ystyr grefyddol, ar hyn o bryd, nid ydyw hyny ynddo ei hun yn cynwys sicrwydd am y dyfodol. Yr oedd yn perthyn i ardd gyntaf dynoliaeth ei hamodau. Gosodwyd dyn yno nid i segura ac i ymheulo fel anifail direswm, ond i'w "llafurio ac i'w chadw hi." Ac y