Tudalen:Anthropos-Gwroniaid y Ffydd.djvu/114

Gwirwyd y dudalen hon

"Tannau euraidd tynerwch."

PENNOD V.
BARDD HIRAETH.

MEITHAF o holl gyfansoddiadau barddonol Cawrdaf ydyw ei awdl ar "Job." Gwyddys fod dau briffardd arall wedi cyfansoddi yn benigamp ar y testyn aruchel hwn. Gorchwyl dyddorol fuasai ceisio cydmaru y tri chyfansoddiad yn eu cynllun a'u gweithiad allan; hwyrach y gwneir hyny rywbryd. Ond ein hamcan yn