awr ydyw galw sylw at rai o brydferthion cyfansoddiad Cawrdaf. Am farddoniaeth llyfr Job efe a ddywed :
Geiriau diddysg, rhaid addef
I'w dal wrth ei brif—awdl ef
Yw awdlon goreuon r'oes
Dylanwad anadl einioes,
Canai emyn cyn Homer,
Eiliai bwnc cyn Virgil ber.
Wedi bod yn darlunio y chwalfa chwyrn fu ar feddianau a chysuron Job, y mae yn ei ddesgrifio yn dweyd fel hyn:
O cefais uchder cyfoeth
Da yw nwyn yn dlawd a noeth;
I'w angen, annheilyngwr
Yw dyn o ddefnyn o ddwr!
Pan y mae ei wraig yn ei berswadio i felldithio Duw fe ddywed :
Go ryfedd yw gwarafun
I Dduw hael ei eiddo ei hun!
Darlunia ei boenau arteithiol fel y canlyn:—
Aelwydydd gwynias yw'r aelodau—gaf,
Gofid yn ffynonau;
Y pen sydd yn poenus wau,
Y gwenwyn drwy'r gewynau!
Wele un o'i gyfeillion yn nesau ato:
A bron o ffyddlon goffhad,
Yn deml o gydymdeimlad.
Cafodd y patriarch ar y domen oer, ar "laith nos a gwlith y nen,"
A'i llaw tros y fan lle trig,
Aethog iawn, noeth ac unig;
Y naill du mae'r fantell deg
Yn gorwedd ar ryw gareg.
Mae yr ymddyddanion rhyngddo a'i gyfeillion wedi eu cyd-osod yn dda; ymfoddlona y bardd ar gynghaneddu