Tudalen:Anthropos-Gwroniaid y Ffydd.djvu/12

Gwirwyd y dudalen hon

mae pob paradwys ddaearol yn debyg yn yr ystyr hwn. Rhaid llafurio i'w chadw. Na fydded i hyn gael ei fwrw dros gof yn Nghymru freintiedig,—gwlad y diwygiadau a'r cymanfaoedd. Na chaffer ni yn ddiofal yn nghanol ein hetifeddiaeth deg. Na ddarostynger ein brodir i fod yn gyffelyb i wlad y Lotos—eaters,[1]

"A land where it was always afternoon"

—dim boreu, dim ynni, na dim gwaith.

Y mae arwyddion ar y terfyn-gylch fod cyfnewidiad hin heb fod yn mhell. Y mae yn fwy na thebyg y daw rhuthriadau cryfion i ymosod ar Gymru, i dori ar y tawelwch, ac i brofi nerth ein ffydd. Daw "amser cannu, diwrnod nithio," eto ar ein gwlad. Beth a wnawn yn nydd yr ymweliad? Un peth yn ddiau a allwn, ac a ddylem wneyd yn ddioedi ydyw—parotoi ar gyfer y rhyferthwy. Rhaid i'n bywyd crefyddol estyn ei wraidd i ddaear ddofn egwyddorion, ymglymu am hanes amddiffynwyr y ffydd a roddwyd unwaith i'r saint. Ai yn ofer y llafuriodd y diwygwyr Protestanaidd? Ai penboethiaid oedd hen Anghydffurfwyr Cymru ? A ydyw rhyddid cydwybod a rhyddid barn yn llai gwerthfawr yn ein golwg ni nac oeddynt iddynt hwy? A ydyw yr arwyddair Protestanaidd mai "Gair Duw ydyw unig reol ffydd ac ymarweddiad" i gael ei osod o'r neilldu? Ac a ydyw defodaeth rwysgfawr i ddiorseddu gweinidogaeth yr Efengyl? Dyna rai o'r cwestiynau y gofynnir i ni eu hystyried ar fyrder, fel y caffom beth i'w ateb i'r cenhadau y mae y Pab a'i gardinaliaid yn gweled yn dda eu hanfon atom.

A chyda'r amcan o fod yn rhyw ychydig o gynorthwy yn y pethau hyn, y cyflwynir y llyfryn hwn i sylw ieuenctyd ein hanwyl wlad. Ac yr wyf yn distaw hyderu y bydd y darlleniad ohono yn symbyliad i ambell un astudio yr hanes yn llwyrach, ac i ymrestru fel gwirfoddolwr yn y fyddin anrhydeddus, anorchfygol, sydd wedi ei harwain, o oes i oes, gan Wroniaid y Ffydd.

Yr eiddoch yn wladgar,

R. D. ROWLAND.

CAERNARFON.

  1. Poems (Tennyson, 1833)/The Lotos-Eaters