Tudalen:Anthropos-Gwroniaid y Ffydd.djvu/13

Gwirwyd y dudalen hon

BRWYDRAU RHYDDID.


PENNOD I.

MAES Y FRWYDR.

PAN yn talu ymweliad â rhai o'r llanerchau hyny sydd wedi bod yn faes brwydrau celyd a chofiadwy, manteisiol ydyw dringo rhyw fryn neu uchel—dir cyfagos mewn trefn i gael syniad cyffredinol am gyd-berthynas y gweithrediadau.

Meddylier ein bod yn talu ymweliad a Morfa Rhuddlan. Byddai yn naturiol i ni gerdded drwy y gwastattir gwelltog, lle y gwelwyd[1]

"dull teryll y darian;"

lle y clybuwyd

"si, eirf heb ri' arni yn tincian,"

a mwy na'r oll, lle bu ein hynafiaid yn gwaedu dros ryddid a gwladgarwch. Ond mewn trefn i gael yr olygfa'n gyflawn i'r meddwl, dylid esgyn ar ysgwydd gref un o'r bryniau sydd yn gwarchod Dyffryn Clwyd:

Aros mae'r mynyddau mawr
Rhuo drostynt wna y gwynt.

Ein hamcan ar y dalennau hyn ydyw arwain darllenwyr ieuanc Cymru yn benaf—i olwg maes brwydr,—y frwydr hirfaith, rhwng rhyddid a gormes, rhwng gwirionedd a chyfeiliornad, rhwng nerthoedd unedig llysoedd eglwysig a

  1. Cyflafan Morfa Rhuddlan gan Ieuan Glan Geirionydd