Tudalen:Anthropos-Gwroniaid y Ffydd.djvu/15

Gwirwyd y dudalen hon

anturiaeth a dyfais. Yn eu mysg yr oedd yr argraff-wasg, llawforwyn ffyddlawn i achos rhyddid a chynydd. Y gwr a ddygodd y ddyfais hon drosodd i Loegr ydoedd William Caxton, a thrwy gydsyniad y brenhin Edward IV. gosodwyd y wasg gyntaf yn Westminster yn 1471. Bu y ddyfais hon, a'i chyffelyb, yn wasanaethgar i ysbryd y Diwygiad, y chwyldroad hwnw a ysgydwodd nerth y Babaeth hyd ei sail, ac a arweiniodd filoedd o feddyliau o dywyllwch ofergoeledd i oleuni dydd efengyl y tangnefedd.

SEREN Y BOREU.

Yr oedd llawer o ddefnyddiau y Diwygiad wedi eu casglu cyn i'r peth ei hun dori allan mewn nerth. "Eraill a lafuriasant," ar y Cyfandir, ac yn y deyrnas hon. Yn eu mysg yr oedd y gwr a adwaenir fel 'Seren foreu" y diwygiad yn Lloegr John Wickliffe, gweinidog yr Efengyl yn Lutterworth, swydd Leicester. Gorweddai ei fywyd a'i waith yn nghanol y 14eg ganrif. Efe oedd y blaenaf i gyfieithu Gair Duw i iaith ei wlad—gweithred haeddianol o anfarwoldeb. Ond nid efrydydd yn unig oedd Wickliffe: yr oedd, hefyd, yn ddiwygiwr aiddgar a thrwyadl. Coleddai syniadau rhyddfrydig mewn oes gul a rhagfarnllyd. Credai efe mai y Beibl, ac nid Cyngorau; y Beibl ac nid y Pab oedd yr awdurdod oruchaf mewn barn a chrêd. Ymosodai yn hallt ar lygredd a difrawder yr offeiriaid. Yr ydoedd yn elyn anghymodlawn i'r Trawsylweddiad, a chyfeiliornadau eraill eglwys Rhufain. Oherwydd ei ymroad i bregethu ac i ysgrifennu yn erbyn y pethau hyn, cafodd ei wysio i ymddangos o flaen y Cyngor, neu y Chwilys Pabaidd yn Lambeth, Llundain. Ac yno, yn nghanol gelynion yr egwyddorion a amddiffynid ganddo, yr ydoedd yn gorfod sefyll fel yr Apostol Paul o flaen Nero, yn unig a dinodded. Ond yn ystod y gweithrediadau siglwyd dinas Llundain gan ddaeargryn. Crynodd y Llys hyd ei sail, a meddian-