Tudalen:Anthropos-Gwroniaid y Ffydd.djvu/16

Gwirwyd y dudalen hon

wyd y cardinaliaid gan ddychryn a braw. Gelwir y Cyngor hwnw yn "Gyngor y ddaeargryn" hyd y dydd hwn. Y mae'n fwy na thebyg i'r ddaeargryn effeithio ar ganlyniadau yr ymchwiliad. Cafodd Wickliffe ei ollwng yn rhydd. Dychwelodd i Lutterworth, ac yno y bu farw yn y flwyddyn 1384. Yn yr olwg ar y gwaith ardderchog a gyflawnodd yn ei fywyd, priodol fuasai dweyd—"Heddwch i'w lwch." Melus fyddo hûn y gweithiwr. Ond nid felly y bu. Yn mhen deugain mlynedd ar ol ei farw, aeth nifer o genhadon Pabaidd i eglwys Lutterworth liw nos. Codwyd esgyrn y diwygiwr o'r bedd, a llosgwyd hwy yn lludw. Cafodd y lludw ei daflu i afon gerllaw. Cludwyd ef i afon arall, ac yna i'r môr. Y pethau hyn sydd mewn alegori. Yr oedd hyn yn broffwydoliaeth o'r modd y caffai egwyddorion John Wickliffe, yn ol llaw, eu lledaenu a'u gwasgar dros wyneb y byd.