Tudalen:Anthropos-Gwroniaid y Ffydd.djvu/24

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Harri i gweryla gyda'i Sancteiddrwydd yn nghylch deddf Ysgariaeth. Bu y cwestiwn yn cael ei drafod mewn llawer llys, ac o'r diwedd, y brenin a orfu. Difreiniodd ei wraig gyfreithlawn Catherine o Arragon; priododd Anne Boleyn ac eraill ar ei hol. Priodi a dad-briodi oedd ei hanes i ddiwedd ei oes. Nid oes gan Gymru un rheswm dros fawrhau coffadwriaeth Harri'r Wythfed. Gwnaeth yr oll oedd o fewn ei allu i lethu ein hiaith a'n cenedl.

YR ESGOB RIDLEY

(Cydymaith Latimer wrth y stanc).

Ar ei ol ef daeth y frenhines ddidostur a adwaenir wrth yr enw "Mari Waedlyd." Gyda hi daeth Pabyddiaeth yn ol fel llifeiriant i'r wlad. Dechreuodd cyfnod o erlid di-drugaredd. Arweiniwyd llu o oreugwyr Lloegr at a stanc a'r ffagodau.