Tudalen:Anthropos-Gwroniaid y Ffydd.djvu/25

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

LATIMER A RIDLEY.

Yn eu mysg yr oedd Latimer a Ridley. Yr oedd Latimer yn esgob, ac yn un o bregethwyr enwocaf yr oes. Codai ei lef fel udgorn yn erbyn anfoesoldeb a llygredigaeth mewn llan a llys. Ni esgynodd i bwlpud bregethwr gwrolach, mwy didderbyn-wyneb na Hugh Latimer.

HEOL YN RHYDYCHEN

(Mangre dienyddiad y ddau ferthyr).

Y mae y gair a ddwedodd o ganol y fflam yn cael ei gofio byth:-"Cymer gysur, fy mrawd; ymddwyn fel dyn yr ydym ni heddyw, drwy ras Duw, yn goleuo canwyll yn Lloegr na welir mohoni byth yn diffoddi." Y dystiolaeth hon oedd wir. Yr oedd esiamplau y merthyron hyn, ac eraill, megys canwyll yn llosgi ac yn goleuo mewn