Tudalen:Anthropos-Gwroniaid y Ffydd.djvu/26

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

lle tywyll, ac yr ydym ninnau-wedi llawer o ddyddiau,yn llawenychu yn eu goleuni hwy. Y mae y llanerch lle y bu y gwŷr uchod yn dioddef merthyrdod, erbyn heddyw wedi ei gorchuddio gan gofadail ardderchog-"cofadail y merthyron" yn Rhydychen.

THOMAS CRANMER

"Aeth at y stanc i drengu, a hunodd yn y fflam")

Un arall o'r dioddefwyr ydoedd Thomas Cranmer. Llithiwyd ef mewn moment o wendid i arwyddo deiseb oedd yn gyfystyr a gwadiad o'i olygiadau. Ond adfeddianodd ei ffydd a'i wroldeb.

Aeth at y stanc i drengu
I huno yn y fflam.