Tudalen:Anthropos-Gwroniaid y Ffydd.djvu/28

Gwirwyd y dudalen hon

PENNOD IV.

PAN OEDD BESS YN TEYRNASU.

WEDI hyn daeth y Frenhines Elizabeth i'r orsedd. Teyrnasodd yn hir, ac y mae y cyfnod hwnw yn cael ei alw yn fynych yn 66 oes aur yn hanes Prydain. Yr oedd cewri ar ddaear ein gwlad yn y dyddiau hyny. Cynrychiolid gwleidyddiaeth gan Arglwydd Burleigh: gogoniant milwrol gan Syr Walter Raleigh: y Llynges gan Drake: llenyddiaeth a'r ddrama gan Spenser a Shakespeare.

Coleddid gobeithion uchel gan amddiffynwyr a charedigion rhyddid, -rhyddid cydwybod a barn-ar adeg esgyniad Elizabeth i'w gorsedd yn 1558. O ran proffes yr ydoedd yn Brotestant, ond Protestant ar lun a delw ei thad, Harri'r Wythfed.

DEDDFAU GORTHRWM.

Yn nechreu ei theyrnasiad pasiwyd deddfau oeddynt yn llawn o elfennau gorthrwm a thrais. Yn eu plith yr oedd

(1) Deddf Unbenaeth (Act of Supremacy). Gofynid i bawb oedd yn derbyn swydd gyhoeddus i ddatgan trwy lŵ mai y Frenhines oedd unig bennaeth yr Eglwys a'r Wladwriaeth, a hyny mewn pynciau gwladol ac ysbrydol. Yr oedd miloedd yn y deyrnas nas gallent blygu i Baal yn y peth hwn.

(2) Deddf Unffurfiaeth (Act of Conformity).—Yn ol y ddedf hon rhoddid gorfodaeth ar bob gweinidog i ddefnyddio y Llyfr Gweddi Gyffredin yn mhob gwasanaeth