Tudalen:Anthropos-Gwroniaid y Ffydd.djvu/29

Gwirwyd y dudalen hon

crefyddol. Yr oedd y sawl a ddywedai air yn erbyn y Llyfr hwnw i gael ei gospi. Gorchymynid i bob dyn a dynes roddi eu presenoldeb yn eglwys y plwy unwaith, o leiaf, bob Sabboth, neu dalu dirwy o ddeuddeg ceiniog am y trosedd. Arweiniodd hyn i erledigaeth boenus a maith. Yr oedd y Frenhines a'i chyngorwyr wedi gosod eu bryd ar Unffurfiaeth, ac ni arbedent neb na dim oedd yn sefyll ar ffordd eu hamcan. Oherwydd hyn cafodd y cyfnod oedd ar lawer cyfrif yn "oes euraidd" ei ddifwyno a'i hacru gan weithredoedd creulawn tuagat y sawl oedd yn credu mewn ufuddhau i Dduw yn hytrach nac i ddynion.

Yr oedd Uchel Lys Dirprwyaeth yn eistedd yn barhaus, a chafodd llu mawr o Anghydffurfwyr eu condemnio gan y Llys hwn, a'u rhoddi i farwolaeth. Yn eu mysg yr oedd dau wr sydd, bellach, yn enwau cysegredig yn y deyrnas—

GREENWOOD A BARROW.

Am ysgrifennu yr hyn oedd groes i syniadau yr Uchel Lys a'r "Star Chamber," cawsant eu dedfrydu i'r crogbren. Dioddefasant eithaf cyfraith anghyfiawn yn Tyburn, lle y dienyddid mwrddwyr a gwehilion cymdeithas.

JOHN PENRI.

Ond yn mysg llu y merthyron yn nyddiau y Frenhines Elizabeth yr un sydd yn cyffwrdd ddyfnaf â'n calonnau ydyw hanes John Penri. Ganwyd ef yn Cefnbrith ar fynyddoedd Eppynt yn y fl. 1559. Gadawodd Gymru yn gynar ar ei oes, a cheir ef yn efrydydd yn Nghaergrawnt. Pabydd zelog ydoedd yn nechreu ei fywyd, ond daeth dan. ddylanwad y Piwritaniaid. Mynychai eu cyfarfodydd : hoffodd eu hegwyddorion, a thorodd goleuni gwirionedd ar ei feddwl. Mewn canlyniad i'w argyhoeddiad personol ei hun, y mae'n dod i deimlo awyddfryd angherddol am weled Cymru yn mwynhau llewyrch a chysur Efengyl bur.