Tudalen:Anthropos-Gwroniaid y Ffydd.djvu/37

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

arwyddocaol o hanes ei goffadwriaeth am ddau can mlynedd. Gwarthnodid ei enw. Delweddid ef fel corphoriad o bobpeth isel a gwaradwyddus; pobpeth drwg a dieflig. Gelwid ef yn rhagrithiwr, yn garnfradwr, ac yn

JOHN MILTON

(Ysgrifenydd Cartrefol Cromwell, ac awdwr Coll Gwynfa").

elyn pob daioni. Taflai pob hanesydd o'r braidd gareg ar ei garn. Ond daeth amser i newid y ddedfryd. Yn ngeiriau grymus Hiraethog,-

Archangel o lenorydd, saif uwch ben
Y garnedd fawr o ddirmyg, dan yr hon