Prawfddarllenwyd y dudalen hon
RICHARD BAXTER
(Awdwr Tragwyddol Orphwysfa'r Saint").
PENNOD VII.
DYDDIAU CYMYSG.
AWN rhagom i ddyddiau Iago II,—penboethyn Pabaidd. Cafodd y brenhin ŵr wrth fodd ei galon yn y dynsawd cigyddlyd hwnnw a adwaenir fel y Barnwr Jeffreys. Yr oedd ef yn ymloddestu mewn dirdynnu, a dienyddio Anghydffurfwyr. Yn mysg y sawl a wysiwyd gerbron y "barnwr anghyfiawn" yr oedd
RICHARD BAXTER,
awdwr y llyfr nawsaidd hwnnw "Tragwyddol Orphwysfa'r