Tudalen:Anthropos-Gwroniaid y Ffydd.djvu/46

Gwirwyd y dudalen hon

lon deb offeiriaid a gwerin am flynyddau. Ond er gwaethaf llid y gelyn, yr oedd llanw Rhyddid yn codi, ac egwyddorion crefydd Crist yn lefeinio meddwl y wlad. Yr oedd yn y Diwygiad hwnw nerthoedd cuddiedig oeddynt yn llawer cryfach ac ehangach na'r diwygwyr eu hunain. Ar ambell awr, deuai ysbryd cul, ceidwadol i'w llywodraethu hwy, ac i dywyllu eu gweithredoedd ; ond yr oedd egwyddor fawr Rhyddid yn mynd rhagddi o hyd, gan orchfygu, ac i orchfygu.