ein rhagflaenu yn y gâd. Safwn yn y rhyddid a ennillasant hwy, a chyd-ymroddwn i estyn ei derfynau. I ryddid yr ydym wedi ein galw; na fyddwn anufudd i'r weledigaeth nefol. Na ddalier ni drachefn dan iau caethiwed. Cyd-drefnwn ein rhengau: suddwn ein mân-wahaniaethau, —close the ranks! Byddwn ffyddlawn i draddodiadau y gorphenol ymestynwn at addewidion y dyfodol. Parchwn, anwylwn yr hen faner sydd wedi bod yn cyhwfan mewn mil o frwydrau. Y mae ysbrydion gwroniaid yn hofran o'i deutu y mae wedi ei llychwino â gwaed y merthyron, ond y mae Buddugoliaeth yn dilyn ei cherddediad, a chysgodion y nos yn ffoi o'i blaen. A pha ryfedd? Ei harwyddairyw rhyddid, a "Gair Duw yn uchaf."
BANER RHYDDID.
I.
Boed baner wen Rhyddid yn chwyfio'n y gwynt,.
Diddymer caethiwed a gormes,
Ysbrydiaeth a glewder y Tadau dewr gynt
Fel llanw fo'n chwyddo pob mynwes;
Mae angel gwarcheidiol gwladgarwch yn awr,
Ar aelgerth y clogwyn yn gwylio,
A heddwch yn gwenu drwy ddorau y wawr
Tra baner wen Rhyddid yn chwyfio.
II.
Mae gweddi dynoliaeth yn esgyn i'r nef,
Ac adlais a leinw'r awelon,—
Teyrnasa cyfiawnder, ei gorsedd sy' gref,
Caiff Rhyddid deyrnwialen a choron.
Ymlidir cysgodion y fagddu o'r tir,
Mae Trais yn ei garchar yn crynu,—
Byw byth y bo Rhyddid, mawryger y gwir,—
A choder y faner i fyny.