Tudalen:Anthropos-Gwroniaid y Ffydd.djvu/53

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

y ddaeargryn a'r ystorm. Chwalwyd muriau hen garchar yr Oesoedd Tywyll, ac ar filoedd oeddynt yn eistedd mewn tywyllwch, cododd goleuni mawr. Torwyd gefynnau caethiwed a chyhoeddwyd efengyl rhyddid a gwirionedd.

Dyma y cyfnod yn mha un y disgynnodd llinynau bywyd Edmwnd Prys. Ac er iddo gael ei eni mewn cwrdd pellenig a di-nod, rhyw gongl enciliedig o'r byd, eto daeth dan

JOHN KNOX

(Apostol y Diwygiad yn Ysgotland).

gyffyrddiad y dylanwadau oeddynt fel gwefr yn awyrgylch Ewrop yn y cyfnod rhyfedd, byth-ddyddorol hwn. Mewn trefn i argraffu yr adeg ar y meddwl, dichon mai dyddorol fyddai crybwyll rhai ffeithiau hanesyddol, yn ol eu hagosrwydd at fywyd ac amserau Edmwnd Prys. Yn ystod ei yrfa ddaearol, bu pedwar penadur yn eistedd ar orsedd