Tudalen:Anthropos-Gwroniaid y Ffydd.djvu/60

Gwirwyd y dudalen hon

ag Edmwnd Prys. Y mae darn o graig yn yr afon a adwaenir fel "Pwlpud Huw Llwyd." Bernir mai mab iddo ef ydoedd Morgan Llwyd o Wynedd. Bu farw Huw Llwyd mewn henaint teg, a chladdwyd ef yn mynwent Maentwrog. Cyfansoddodd Edmwnd Prys yr englyn canlynol i'w ddodi ar ei fedd:

Pencampwr doniau a dynwyd—o'n tir,
Maentwrog ysbeiliwyd:
Ni chleddir, ac ni chladdwyd
Fyth i'w llawr mo fath Huw Llwyd.

Gwr arall y dylid ei enwi yn y cysylltiad hwn ydoedd

GWILYM CYNFAL.

boneddwr a bardd o ardal Penmachno. Cymerodd gornest farddol le rhwng Cynwal a Phrys. Dechreuodd mewn ysmaldod. Ceisiwyd gan Edmwnd Prys lunio cywydd i ofyn i Cynwal am fwa saeth. Ond yn lle anfon y bwa, gyrrodd Cynwal gywydd yn beirniadu cyfansoddiad y bardd o Faentwrog. Yn y modd yna aethant i saethu at eu gilydd oddiar fwa y gynghanedd. Cydnabyddai Cynwal fod Prys yn ysgolhaig, ond nid yn fardd. Haerai Prys nad oedd Cynwal y naill na'r llall. Aeth y rhyfel yn chwerw, ac yr oedd saethau Prys mor finiog fel y dywedir i'r helynt effeithio ar iechyd ac ysbrydoedd y bardd o Benmachno. Dengys hyn nad diogel i feirdd, mwy na dynion eraill, ydyw ymgiprys gormod gyda bwa saeth.

Ond na thybier mai gwr pigog, cwerylgar, ydoedd Edmwnd Prys. Gwell oedd ganddo dangnefedd i ddilyn ei fyfyrdodau. A gwaith o'r nodwedd yna sydd wedi cadw ei enw mewn coffadwriaeth. Yn lled gynar ar ei oes bu yn cynorthwyo Dr. Morgan yn nglŷn â chyfieithu y Beibl Cymraeg, a phan wnaed y cyfieithydd yn esgob, cofiodd am ei gyfaill llengar yn Maentwrog. Pennodwyd ef yn arch-