Tudalen:Anthropos-Gwroniaid y Ffydd.djvu/73

Gwirwyd y dudalen hon

Rhai folant yn y boreu'r hyn feïant y prydnawn,
A chredant mai'r opiniwn diweddaf fydd yn iawn.

Ond y mae barn yn cario gyda hi benderfyniad, a chyda'r penderfyniad, nerth. Fe lŷn y cyfryw wrth ei farn. Nis gall unrhyw orthrwm ei wahanu. Fe roddwyd. Galileo o ran ei gorff mewn cadwyn, ond nid oedd yn bosibl cadwyno ei farn fod y ddaear yn troi. O'r penderfyniad hwn y gwneir merthyron-merthyron crefydd a gwyddoniaeth. Mae defnydd gwron yn y dyn sydd yn berchen barn fel hyn. Yr ydym yn rhwym o barchu gwrthwynebydd pan argyhoeddir ni fod barn ddiysgog y tu cefn i'w ymadroddion. Mae nerth i nodweddu gwir farn. "Anwadal barn pob ehud."

CYDBWYSEDD.

Byddwn yn dyweyd am rai dynion fod pwysau yn eu barn; y mae hyny yn ganlyniad cydbwysedd yn eu meddyliau. Diffyg hyn, drachefn, ydyw y rheswm fod llawer dyn o dalent yn gwbl amddifad o farn. Mae un gyneddf neu allu yn y meddwl wedi tyfu ar draul y gweddill. Mewn cydbwysedd gellir disgwyl eglurder. Rhaid i lygad y meddwl fod yn glir i allu barnu yn iawn. Dyma un rhagoriaeth yn Macaulay fel hanesydd—y mae yn hollol glir. Ac y mae Dr. Edwards yn talu yr un warogaeth i De Quincey; mae ei iaith a'i feddyliau yn loew fel y grisial. Yn absenoldeb yr eglurder hwn y mae dyn yn canfod gwrthrychau megis "prenau yn rhodio," yn aflunaidd a diddeddf. Os na allwn weled ymhell, amcanwn weled yn glir. Peidiwn a gosod dim rhyngom â'r pwnc y byddom yn amcanu ffurfio barn am dano. Gwelsom blant yn dodi gwydr mewn mwg er mwyn edrych drwyddo pan fyddai diffyg ar yr haul. Gwydr myglyd fel hyn ydyw rhagfarn, ac y mae y sawl a'i defnyddia yn sicr o ganfod