ynddo nag a feddylia llawer. Cynghorir ni gan Apostol i "synied i sobrwydd." Yr hyn a olygir ydyw agwedd y meddwl-difrifwch yn teyrnasu yn nyfnder yr ysbryd.
PWYLL.
Drachefn mae yn rhaid cael Pwyll. Pa bethau bynag sydd yn gofyn arafwch ac ystyriaeth, gall Barn ddywedyd, "Myfi yn fwy." Y mae barn fyrbwyll, fel rheol, yn gamarweiniol. Byddwn yn dyweyd am rai dynion fod ganddynt "farn addfed." Mae yr ymadrodd ar unwaith yn tybied dadblygiad a chynydd; canlyniad tŵf graddol a distaw ydyw y cyfryw addfedrwydd. Nid rhyfedd fod y diarebion Cymreig yn canmawl pwyll, ac yn cysylltu barn frysiog, anystyriol, âg ynfydrwydd. "Buan barn pob ehud." O'r tu arall, "Gwell pwyll nag aur; "Goreu canwyll, pwyll i ddyn; "Na farna ddyn hyd yn mhen y flwyddyn ; 66 Ar Ꭹ diwedd y mae barnu." Mae hyn yn tybied y dylai dyn fod yn nghymdeithas y gwrthddrych y byddo yn ei farnu am amser maith; y dylai ei weled mewn gwahanol agweddau cyn ffurfio barn derfynol am dano. A'r hwn sydd yn fwyaf profiadol o'r llafur a'r ymdrech i ddeall materion, fel rheol, ydyw y mwyaf gwyliadwrus pan yn traethu ei farn. Gwyddom am ddosbarth arall sydd yn medru barnu yn hollol ddifyfyr. Maent yn traethu barn derfynol ar berson heb ei weled ond unwaith; mae ganddynt eu barn ddigamsyniol am lyfr wedi darllen ychydig frawddegau o hono. Byddant wedi barnu, neu yn hytrach goll-farnu y bregeth ymhen pum' mynyd ar ol ei gwrandaw. Dichon i'r pregethwr fod bum' wythnos yn meddwl neu yn cyfansoddi, ond gwna y beirniad ei waith ef mewn pum' mynyd. Rhaid cydnabod fod y bobl hyn i eiddigeddu wrthynt ar ryw gyfrif, ond pell er hyny a fyddom oddiwrth geisio eu hefelychu. Nid planigyn o ddosbarth y cicaion ydyw barn; y mae tŵf y dderwen yn