Tudalen:Anthropos-Gwroniaid y Ffydd.djvu/80

Gwirwyd y dudalen hon

Ac yn fwriadol, cadw'n ddistaw wnant,
Er mwyn rhoi argraff ddofn ar feddwl byd
O bwyll, doethineb, synwyr di-ben-draw,
Ac fel yn dyweyd, "Syr Orael wyf,
A phan lefaraf na chyfarthed ci!"
O, fy Antonio, 'rwy'n eu hadwaen hwy,
Gyfrifir gan y byd yn hynod ddoeth
Am dd'wedyd dim!

BARNU AMCANION.

Nid yw y rhyddid hwn yn caniatau i ddyn farnu bwriadau neu amcanion ei gyd-ddynion. Barnwyr gweithredoedd ydym ni; i Un arall, y perthyn profi "bwriadau a meddyliau y galon." Yr ydym yn hynod barod i droseddu y ddeddf hon, ac i gamarfer ein rhyddid. Y duedd hon sydd yn rhoddi grym i'r anogaeth yn y bregeth ar y mynydd: "Na fernwch, fel na'ch barner." Y mae amcanion pobl yn private ground hyd nes y byddont wedi ymgnawdoli mewn actau gweledig. Nid ydym i fod yn "farnwyr meddyliau" da na drwg. Pan yn priodoli amcanion i eraill yr ydym yn croesi ffin rhyddid barn, ac yn sangu ar lanerch y mae yn ysgrifenedig ar ei therfynau eithaf, "Troseddwyr a gosbir."

Y DDAU GYFNOD.

Gellir rhanu bywyd dyn ynglŷn â'r pwne hwn i ddau gyfnod. Yn y cyntaf, y mae yn ffurfio ei farn, ac yn ceisio dadrys problems mawrion bywyd; wedi cyrhaedd yr ail, y mae ei farn ar bobpeth wedi ei sefydlu. Y mae ganddo ei farn, ac nid yw yn debyg o'i newid am un arall. Ychydig o ddynion, meddir, sydd yn newid eu barn wedi pasio 60 mlwydd oed. Yn awr, yr ydym yn cyfeirio at y rhai sydd yn y blaenaf, a'r pwysicaf mewn gwirionedd-cyfnod ffurfio barn. A thuag at hyny, meithriner y cariad dyfnaf at wirionedd. Sylwa doethawr Paganaidd fod Plato yn gyfaill iddo, a bod