Tudalen:Anthropos-Gwroniaid y Ffydd.djvu/83

Gwirwyd y dudalen hon

CASTELL CAERNARFON.


YSBRYD RHYDDID.

MAE ysbryd yn y castell hwn:
Ac nid oes Gymro dan y nef,
Eill basio tan y muriau mawr,
Na sylla'r ysbryd arno ef;
O ben y tŵr a phen y mûr,
Fe laddodd filoedd yn ei wg;
Ond ysbryd da yw ef yn awr,
Er iddo fod yn ysbryd drwg.

—Ceiriog.