Tudalen:Anthropos-Gwroniaid y Ffydd.djvu/84

Gwirwyd y dudalen hon

YDYW, y mae ysbryd Rhyddid a gwladgarwch ar ddihun. Ceir arwyddion ohono ar bob llaw. Dichon mai yn nghyfeiriad gwleidyddiaeth y mae'r ynni newydd hwn i'w weled gryfaf, ond y mae pob adran o'n bywyd cenedlaethol yn prysur deimlo ei bresenoldeb. Treiddia i bob congl o gymdeithas, ac y mae eisoes wedi rhoddi symbyliad grymus i lenyddiaeth ein gwlad. Ac nid yw yn gyfyngedig i derfynau y Dywysogaeth: ymleda yn gyflym i wahanol rannau o'r byd. Dan ei ddylanwad ymwasga y Cymry at eu gilydd. Y mae cymdeithasau Cymreig yn dod i fodolaeth mewn mannau pellenig. Gwelir Cymry ieuainc yn ymgodi o ganol y berw Seisnig i amddiffyn a chefnogi buddiannau ein gwlad gynhenid. Gwnant hynny dan ddylanwad yr ysbryd newydd sydd wedi deffro yn nghalon ein cenedl. Beth yw rhai o nodweddion yr ysbryd newydd? Pa beth a ddywed efe wrthym?

EIN DIFFYGION CENEDLAETHOL.

Y mae yr ysbryd yr ydym yn son am dano, yn ein harwain, yn un peth, i edrych yn myw llygaid ein diffygion. Ein tuedd yn yr amser a fu ydoedd rhedeg i un o ddau eithaf. Un ydoedd dibrisio pobpeth Cymreig. Dyna wendid llawer o Gymry ar ol iddynt ymgymysgu rhyw gymaint â'r hil Sacsonaidd. Yr oedd gwlad eu tadau yn mynd yn ddiddim yn eu golwg: ei phentrefi yn ddi-nod, ei phobl yn druain, dlodion, ac am ei llenyddiaeth hwy a ddywedent yn drwynsur—“ y manna gwael hwn.”

Yr eithaf arall ydoedd gor-foli pobpeth Cymreig am mai Cymreig ydoedd. Gwelwyd cryn lawer o hyn yn nglŷn â'n Heisteddfodau a'n cylch-wyliau llenyddol. Dywedwyd rai gweithiau, nad ydoedd Homer na Miltwn yn ogyfuwch a rhai o feirdd gorseddol ein gwlad. Proffwydwyd anfarwoldeb i lawer cyfansoddiad a fu farw yn ei febyd, a hynny er