Tudalen:Anthropos-Gwroniaid y Ffydd.djvu/9

Gwirwyd y dudalen hon

nefoedd i'w gwneyd yn oddaith. Y dyn mawr, gyda'i rym wedi dod yn uniongyrchol oddiwrth Dduw, ydyw y fellten. Y mae pobpeth yn ffaglu o'i gwmpas, ac yn cyfranogi o'i fflam ef ei hun. Ac eto fe ddywedwn mai y brigwydd sychion sydd wedi rhoddi bod iddo. Yr oedd arnynt fawr anghen am dano, ond am roddi bod iddo!—Pobl o welediad cyfyng, cul, sydd yn crochlefain,—'Gwelwch, onid y brigau sydd wedi cyneu y tan!' Na, nid felly. Nis gallai dyffryn yr esgyrn sychion gynyrchu bywyd. Yr oedd hwnw yn ganlyniad yr anadl Ddwyfol. Creadigaeth felly ydyw dynion mawr. Ac nid ydyw hanes y byd yn ddim amgen na bywgraffiad y gwroniaid hyn."

Dyna ddysgeidiaeth Carlyle. Pregethai hi ai holl egni. Ar y cyntaf, nid ydoedd ond llef un yn llefain yn y diffaethwch; ond yn y man daeth llawer i lawenychu yn ei oleuni, ac i gyfranogi o'i frwdfrydedd. Daeth hanes y gorphenol i wisgo gwedd newydd a gwahanol. Nid cronicl sych o ffeithiau difywyd,―geni a marw brenhinoedd a thywysogion; amseriad brwydrau, a digwyddiadau arwynebol-nid yn y pethau hyn y mae hanfod Hanes; y mae hwnw, bellach, wedi ei grynhoi o gwmpas y cymeriadau hyny sydd wedi creu a llunio cyfnodau newyddion. Amwisg yw y ffeithiau, ac y mae eu dyddordeb yn gynwysedig yn y gwasanaeth a wneir ganddynt i daflu goleuni ar ddynion, ac ar eu gwaith.

Yn nghrym y weledigaeth hon yr ysgrifennodd Carlyle ei lyfr ar "Wroniaid," yn nghyda'r cyfrolau bywiol hyny ar "Oliver Cromwell" a'r "Chwyldroad Ffrengig." Llafuriodd, manwl-chwiliodd am bob tameidyn o ffaith oedd yn dal cysylltiad â gwrthrych ei efrydiaeth. Dygodd asgwrn at ei asgwrn; gwisgodd hwy â giau ac â chroen, ac yn goron ar y cyfan—anadlodd anadl einioes yn y defnyddiau, nes y maent yn aros bellach yn ddelweddau byw, anfarwol, yn oriel llenyddiaeth ein gwlad.

Ond y mae'n perthyn i wroniaeth ei raddau, yn ol fel y byddo cylch ac amcanion ei weithrediadau. Arall yw gwroniaeth y Cadfridog, ac arall yw gwroniaeth y Dyngarwr. Nid ydyw Wellington a John Howard yn perthyn i'r un dosbarth. Yn yr ystyr hwn gellir gofyn,—