prif oleuad "Cymdeithas Eryron," yr hon a gynelid yn y Bontnewydd. Tyfodd beirdd rhagorol o'r gymdeithas hon ; ac yma, ar Tachwedd 24, 1816, y derbyniodd gwrthrych ein sylwadau yr enw barddonol, Gwilym Cawrdaf. Yn 1817, symudodd i'r Brifddinas, ac yno ymaelododd â chymdeithas enwog y Gwyneddigion. Yr ydym wedi crybwyll am ei fedr mewn arlunio. Tra yn Llundain daeth boneddwr i wybod am dano yn y cymeriad hwn, a chymerodd ef yn gydymaith i'r Cyfandir, lle y bu yn teithio, gyda llawer o foddhad fel landscape painter. Bu yn y parthau mwyaf nodedig o Ffrainc ac Itali, ac y mae yr argraffiadau a wnaed ar ei feddwl pan yn dringo llethrau Vesuvius wedi eu hadgynyrchu ganddo yn hanes y "Meudwy Cymreig." Bu yn dilyn yr alwedigaeth o artist wedi dychwelyd i Lundain, ond pallodd ei iechyd. Daeth i Feirion i fod yn olygydd yn yr hen swyddfa lle y bu yn brentis, yn Nolgellau. O hyn allan ymroddodd yn fwy llwyr i lenyddiaeth a barddoniaeth. Graddiwyd ef yn fardd yn Eisteddfod Caernarfon, Medi, 1821. Enillodd gadair Gwent a Morganwg yn 1822. Y testyn oedd "Rhaglawiaeth Sior IV." Tra yn Nolgellau, bu yn egniol iawn i sefydlu a dwyn yn mlaen gymdeithas Gymroaidd i drafod gwahanol ganghenau llên. Yn 1824, symudodd i Gaerfyrddin, a mawr oedd cwyn llenorion Dolgellau ar ei ol. "Collwyd yr aelod callaf," ebe un o honynt. Yn y flwyddyn hon (1824) enillodd wobr wych yn Eisteddfod y Trallwm, am Gywydd ar "Oresgyniad Mon," dan feirniadaeth Gwallter Mechain. Yn 1832, enillodd wobr am Gywydd i "Dafydd yn canu y delyn o flaen Saul," yn Eisteddfod Freninol Beaumaris, pan y derbyniodd yr arian-dlws o law ein Grasusaf Frenines. Ond heblaw y pethau hyn, llafuriodd yn helaeth mewn cyfeiriadau eraill. Efe a gyfieithodd y "Byd a Ddaw" gan Dr. Wats, i'r Gymraeg. Gwnaeth yr
Tudalen:Anthropos-Gwroniaid y Ffydd.djvu/97
Gwirwyd y dudalen hon