Gwirwyd y dudalen hon
un peth a hanes anturiaethau cenhadol John Williams, merthyr Eromanga. Cyfansoddodd waith helaeth hefyd, yn dwyn yr enw, "Hanes y Nef a'r Ddaear," ond bu farw pan oedd y llen olaf o hono yn y wasg. Cymerodd yr amgylchiad le Mawrth 27, 1847, ac efe yn 53 mlwydd oed.
Cyhoeddwyd casgliad o'i gyfansoddiadau yn nhref Caernarfon yn 1851, gan Ellis Jones, Heol y Capel. Yn nechreu y llyfr coffeir y sylw mai gwaith bardd yw y bywgraffiad goreu o hono. Eithaf gwir.